Mae arweinwyr y byd yn y maes ynni llanw sef SABELLA a Nova Innovation yn dathlu ar ôl sicrhau angorfa 12MW yn un o safleoedd ynni llanw mwyaf y byd oddi ar arfordir Ynys Gybi, Ynys Môn yng Nghymru.
Morlais yw’r prosiect cyntaf i SABELLA a Nova Innovation (Nova) ein hennill ar ôl iddynt gyhoeddi ym mis Mehefin 2021 y byddent yn cyd-weithio ar ddatblygu safle ynni llanw. Bydd pob cwmni yn datblygu 6MW yn yr angorfa 12MW sy’n gorchuddio arwynebedd o 0.65km2. Gall safle tyrbin llanw 12MW ddarparu pwer i hyd at 10,000 o gartrefi’r flwyddyn.
Mae'r ddau dyrbin llanw gan SABELLA a Nova yn eistedd ar wely'r môr ac wedi'u gorchuddio'n llwyr, heb unrhyw effaith weledol ar y tirwedd. Mae'r technolegau'n cynhyrchu ynni glân, rhagweladwy ac yn gweithio gyda natur gan y gall bywyd morol symud o'u cwmpas yn rhydd.
Dywedodd Fanch Le Bris, Prif Weithredwr SABELLA:
“Mae SABELLA yn falch iawn o’r cyflawniad sylweddol hwn, gan gefnogi Llywodraeth Cymru ar y daith trawsnewid ynni. Mae prosiect Morlais yn dangos ymrwymiad cryf timau Nova a SABELLA i feithrin gallu ar gyfer ynni’r llanw ledled Ffrainc a’r DU a chyflawni prosiectau a fydd yn cael effaith sylweddol.”
Ychwanegodd Simon Forrest, Prif Weithredwr Nova Innovation:
“Mae Nova yn falch iawn o fod yn ehangu yng Nghymru ac mae buddugoliaeth Morlais yn dyst i waith caled ein tîm yng Nghymru dros y blynyddoedd. Mae prosiect Morlais yn gyfle gwych i SABELLA a Nova gynyddu a helpu i yrru targedau sero net Cymru.”
Mae parth ynni llanw Morlais yn gorchuddio ardal o 35km2 yn y môr. Menter Môn sy'n gyfrifol am reoli'r safle a dyfarnu'r angorfeydd. Derbyniodd y safle 240MW ganiatâd ar gyfer datblygiad gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2021. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi trwydded forol sy’n rhoi caniatâd i osod tyrbinau llanw. Bydd y gwaith o adeiladu a gweithredu'r prosiect yn digwydd fesul cam fel bod posib monitro amgylchedd bywyd gwyllt a chynefinoedd.
Dywedodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru:
“Rwy’n croesawu’r newyddion am gynlluniau Nova Innovation a SABELLA i ehangu drwy brosiect Morlais. Bydd yn dod â swyddi lle mae angen sgiliau arbennigol ar eu cyfer i ogledd Cymru. Mae digonedd o adnoddau morol yng Nghymru sydd angen cael eu defnyddio mewn ffordd gynaliadwy os ydym am symud tuag at economi carbon isel.
“Rydym wedi buddsoddi’n helaeth mewn ystod o brosiectau, gyda chefnogaeth yr UE, yn y sector ynni morol ac mewn datblygiadau carbon isel a all wneud cyfraniad pwysig at ein targedau ynni adnewyddadwy.”
Mae SABELLA a Nova Innovation eisoes wedi dechrau arolygon ym Morlais a bydd eu tyrbinau cyntaf yn cael eu gosod yn 2023/24.
Dywedodd Karen Jones, Cyfarwyddwr ym Morlais:
“Rydym wrth ein bodd o fod yn cael gweithio gyda Nova a SABELLA ac yn edrych ymlaen at ddatblygu perthynas hirdymor gyda’r bartneriaeth hon. Bydd yn sicr o ddod â manteision economaidd i’r ardal leol, yn ogystal â chwarae rhan bwysig wrth i ni gyd ymdrechu i leihau carbon a chyrraedd targedau sero net.”
Mae SABELLA a Nova yn bwriadu adeiladu ar y prosiect cychwynnol hwn trwy gyfuno arbenigedd a datblygu safleoedd ynni llanw eraill yn y DU a Ffrainc.